Datganiad Preifatrwydd
- Mae modd i chi gyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys data personol a data o natur sensitif i ni drwy lenwi’r ffurflenni cais ar-lein neu drwy e-bost ni yn rhan o gais (‘data ymgeisio’). Mae data o natur sensitif yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch tarddiad ethnig neu hil, eich barn wleidyddol, grefyddol, athronyddol neu fel arall, aelodaeth undeb llafur, iechyd corfforol neu feddyliol, tuedd rywiol, manylion troseddu ac/ neu eich rhan mewn gweithgareddau troseddol.
- O gydnabod ffurflen gais, dydyn ni ddim yn cadarnhau ei chynnwys, yn derbyn y cais nac yn estyn cynnig i’ch cyflogi na chysylltu â chi. Does dim rheidrwydd arnon ni i dderbyn eich cais.
- Drwy gyflwyno eich gwybodaeth, rydych chi’n cytuno y bydd eich data ymgeisio yn cael ei brosesu at ddibenion y canlynol:
- Cyfathrebu â chi ynghylch cyflogaeth gyda chyflogwyr posib
- Cyflogwyr posib yn ystyried eich ceisiadau a’ch recriwtio
- darpariaeth gwasanaethau WebSAF (Mae WebSAF yn galluogi ymgeiswyr i uwchlwytho eu manylion personol cyffredin i ffurflen gais ar-lein. Dim ond ar eich cais y caiff yr wybodaeth yma ei uwchlwytho i ffurflen gais ar-lein y cyflogwr dan sylw. Wedyn bydd gan yr ymgeisydd gyfle i wirio unrhyw wybodaeth cyn ei chyflwyno i’r cyflogwr). Mae’n bosib y byddwn ni’n monitro eich defnydd o’r wefan ac yn cadw eich cyfeiriad e-bost ar gyfer rhesymau mewnol. Mae’n bosib y byddwn ni’n gwneud hyn drwy’r defnydd o ‘cwcis’. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â ‘cwcis’, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: http://www.dataprotection.gov.uk/privacy.htm#cookies.Os nad ydych chi’n cytuno, gallwch chi ddewis peidio â derbyn ffeil cookie drwy alluogi eich porwr i wrthod cwcis neu roi gwybod i chi cyn derbyn cwci. Er mwyn prosesu’ch cais, mae’n bosib y byddwn ni’n anfon eich gwybodaeth i’n swyddfeydd eraill neu asiantau a chynrychiolwyr penodedig, lle bynnag y bôn nhw.
- Rydyn ni’n gyflogwr sy’n dilyn polisi cyfleoedd cyfartal (yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol) a dydyn ni ddim yn gwahaniaethu ar sail rhyw, tarddiad ethnig, oed, crefydd, tueddiad rhywiol, anabledd corfforol neu feddyliol neu unrhyw sail arall sydd wedi’i nodi yn y ddeddfwriaeth leol. Mae pob penderfyniad sy’n ymwneud â chyflogaeth yn cael ei wneud yn ôl haeddiant yr ymgeisydd.
Diogelu Data a Chyfrinachedd
- Rydyn ni’n cydnabod efallai bod eich manylion cyswllt a data ymgeisio (gweler uchod) yn gyfrinachol. Byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol yn unol â’r drefn arferol a’r cyfreithiau perthnasol.
- Mae’n bosib y byddwn ni’n defnyddio eich data ymgeisio a’ch manylion cyswllt ar gyfer recriwtio, marchnata neu ddarpariaeth gwasanaethau WebSAF (gweler uchod). Mae’n bosib y byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydyn ni wedi’i chasglu ynglŷn â’ch defnydd o’r wefan ar gyfer rhesymau mewnol yn unig, gan gynnwys nodi perfformiad y wefan, gwerthuso’i defnydd a chreu adroddiadau marchnata. Bydd hyn yn ein galluogi ni i farchnata ein hun â’n cynnyrch yn y dyfodol. Bydd unrhyw ddata personol sy’n cael ei gasglu ar gyfer monitro yn cael ei ddefnyddio’n gyfun, fydd dim data o natur personol, sensitif yn cael ei ddefnyddio am resymau heblaw am y rhesymau gwreiddiol.
- Efallai y bydd unrhyw un o’r swyddfeydd yn rheoli a phrosesu’ch gwybodaeth. Rydych chi’n cydnabod ac yn cytuno y gallai lleoliad ein swyddfeydd newid o dro-i-dro, ac efallai y byddwn ni’n dod i feddiant swyddfeydd eraill mewn nifer amhenodol o wledydd neu diriogaethau eraill ar unrhyw adeg, ac y gallant reoli a/neu brosesu’ch gwybodaeth. Fyddwn ni ddim yn datgelu’ch data i unrhyw drydydd parti arall ac eithrio i ddibenion recriwtio neu y bod hi’n ofynnol trwy’r gyfraith neu reoleiddwyr i wneud hynny.
- Rydych chi’n deall ac yn cytuno y byddwn ni o bryd i’w gilydd yn trosglwyddo eich manylion cyswllt a/neu ddata ymgeisio dramor i un o’n swyddfeydd, asiantau neu gynrychiolwyr penodedig o’n swyddfeydd tramor. Mae rhai o’n swyddfeydd ni yn ogystal â rhai ein cysylltau, asiantau a chynrychiolwyr penodedig wedi’u lleoli mewn gwledydd tu allan i’r ardal Economaidd Ewropeaidd, sydd heb ddeddfwriaeth diogelu data datblygedig iawn o gymharu â chyfraith Ewrop. Er y byddwn ni’n sicrhau y bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn, mae’n bosib na fydd hawliau gyda chi o dan ddeddfwriaeth diogelu data cyfatebol sy’n rhan o gyfreithiau Ewrop. Peidiwch ag anfon unrhyw ddata personol aton ni os nad ydych chi eisiau inni brosesu’r wybodaeth trwy’r ffyrdd a ddisgrifir yn y disgrifiad hwn.
- Mae hawl gyda chi i weld eich data personol a’i gywiro drwy anfon cais ysgrifenedig i ni. Byddwn ni’n codi tâl statudol o £10 am weinyddu’r cais.
- Weithiau bydd y trydydd parti yn darparu gwasanaethau storio i ni. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, bydd gofyn i’r trydydd partïon wneud cytundeb cyfrinachedd nad yw’n wannach na’r telerau yn y datganiad preifatrwydd hwn ac i brosesu eich data yn unol â’n cyfarwyddiadau ni yn unig.